Mae modd cyfuno sawl mewnbwn gwres gwahanol er mwyn cyrraedd lefel uchel o effeithlonrwydd tra’n sicrhau system effeithiol a dibynadwy.
Pe hoffech gyfuno bwyler olew gyda ‘back-boiler’ yn eich stôf bren neu fanteisio ar egni’r haul i gynhesu dŵr trwy ddefnyddio paneli solar – cysylltwch â ni i drafod gosod storfa wres neu ‘buffer tank’. Mae systemau hybrid fel hyn yn hynod o effeithiol.

Diagram, trwy garedigrwydd Worcester Bosch, yn dangos gosodiad hybrid o baneli solar gyda boeler olew.