Mae pwmp gwres yn casglu ynni o’r tu allan a’i gronni y tu mewn i’r tŷ. Trwy hud thermodynameg, gellir tynnu ynni o oerni gaeaf, a’i fwydo fel gwres i ystafell gynnes, glud. Mae tri phrif gydran yn cyflawni hynny: cylched bibau allanol sy’n casglu gwres a’i drosglwyddo i hylif sy’n anweddu’n rhwydd; cywasgydd sy’n crynodi’r hylif a’r gwres sydd ynddi; a chylched bibau fewnol, sy’n dosbarthu’r gwres trwy’r tŷ.
Pympiau gwres o ffynhonnell y tir (ground-source heat pumps – GSHP).

Mewn llawer o sefyllfaoedd, tir yw’r ffynhonnell wres orau. Tynnir ynni o haen ucha’r tir, lle mae gwres yr haul yn cronni, gyda rhesi o beipiau wedi’u claddu. Mae’r tymheredd ar ddyfnder cymhedrol, tua 2m, yn aros yn gyson drwy’r flwyddyn – tua 10°C. Yn ystod y gaeaf mae hyn yn fantais mawr dros system â ffynhonnell awyr (ASHP), gan bod tymheredd uwch yn galluogi i’r pwmp gwres weithio llawer yn fwy effeithlon. Llun gan Kensa Heat Pumps
Am eglurhad cyflawn o weithred pwmp gwres a manteision tir fel fynhonell wres, ewch i wefan Kensa.
Rydym wedi gosod llawer o bympiau gwres tan-ddaearol. Mae nhw’n systemau hir hoedlog sydd angen ychydig iawn o gynnal a chadw. Os yw’r tŷ’n addas, mae nhw’n systemau gwych, sy’n rhad i’w rhedeg. Mae Cynllun Uwchraddio Boeleri (BUS) y llywodraeth yn cynnig grant o hyd at £7,500 ar gyfer gosod y naill fath neu’r llall o bwmp gwres. Gweinyddir y cynllun gan Ofgem ac mae’n derbyn ceisiadau tan ddiwedd 2027.

Blwch esgidiau Kensa, sef pwmp gwres ffynhonnell ddaear. Mae’n ddigon bach i ffitio y tu mewn i gwpwrdd.
Llun trwy garedigrwydd Kensa.
Pympiau gwres ffynhonnell aer (air-source heat pumps – ASHP)
Mae pwmp gwres ffynhonnell aer yn echdynnu gwres o’r awyr y tu allan, hyd yn oed mewn tymereddau oer ac yn ei ddefnyddio i gynhesu eich cartref a’ch cyflenwad dŵr. Yn y bôn, oergell ydyw sy’n gweithio i’r gwrthwyneb. Mae’n cymryd gwres amgylchynol ac yn ei gynyddu i dymheredd defnyddiadwy ar gyfer gwresogi. Fe’u hystyrir yn ffynhonnell ynni adnewyddadwy oherwydd eu bod yn defnyddio gwres o’r awyr, adnodd sy’n ailgyflenwi’n naturiol.
Pwmp gwres ffynhonnell aer Daikin Altherma.
Llun trwy garedigrwydd Daikin.
