Rydym yn gosod, gwasanaethu a chynnal a chadw pob gwneuthuriad o foeleri olew.
Mae gwasanaeth trylwyr a chyson yn cadw bwyler yn llosgi’n effeithlon ac yn peri i’r bwyler barau’n hirach. Wrth roi gwasanaeth i fwyler, rydym yn adfer gosodiadau’r bwyler yn ôl gofynion y gwneuthurwr i sicrhau ei fod yn llosgi mor lân ac effeithlon a phosib.
Mae boeler olew modern yn hynod effeithlon ac yn llosgi’n lân, gan roi tua 94% o’r ynni sydd ar gael yn y tanwydd sy’n cael ei losgi i chi. Mewn cyferbyniad, bydd boeler 20 oed tua 80% yn effeithlon ar y gorau, efallai llawer llai os yw mewn cyflwr gwael. Mae hynny’n gwneud gosod boeler newydd yn gam mawr tuag at effeithlonrwydd ynni ac fel arfer dyma’r opsiwn rhataf. Mae boeleri o ansawdd da yn ddibynadwy ac yn syml i’w cynnal. Ffoniwch ni os hoffech drafod boeler newydd.
Mae tŷ traddodiadol sy’n defnyddio rheiddiaduron safonol yn addas iawn ar gyfer bwyler olew oherwydd y galw am dymheredd llif uchel trwy’r system wresogi pan fo’r tymheredd y tu allan yn oeri.

Tanciau olew

Ochr yn ochr â chynnal a chadw eich boeler olew, mae sicrhau bod eich tanc olew yn iach yr un mor bwysig. Dros amser, gall tanciau a phibellau olew ddirywio a dechrau gollwng i’r ddaear. Gall hyn achosi difrod amgylcheddol a allai effeithio ar y pridd, dŵr daear neu ddŵr wyneb cyfagos.
Os byddwch chi’n sylwi ar ollyngiad, neu arogl cryf o olew, ffoniwch ni a byddwn ni’n dod i archwilio’r tanc olew a’r bibell i chi.
Mae angen ystyriaeth ofalus i ailosod tanciau olew a phibellau olew. Byddwn yn darparu argymhellion ynghylch ble i’w gosod yn seiliedig ar y rheoliadau diogelwch cyfredol. Mae ffactorau eraill i’w hystyried hefyd. Gall ei symud i rywle sy’n fwy pleserus i’r llygad olygu nad yw’n hygyrch ar gyfer danfoniadau tanwydd, er enghraifft.
Gallwn gynnal eich cyflenwad olew tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, trwy bwmpio olew allan o’r hen danc i gynwysyddion a gosod llinell dros dro nes bod y tanc newydd wedi’i leoli. Dim ond tanciau â bwnd (croen dwbl) yr ydym yn eu gosod er mwyn diogelwch ychwanegol.
Gosodiadau effeithlonrwydd uchel a chyfuno ffynonellau gwres
Mae ffordd o gael hyd yn oed mwy o effeithlonrwydd o’ch system wresogi sef trwy ychwanegu falf gymysgu i addasu tymheredd y llif i adlewyrchu’r tymheredd y tu allan. Mae’n well ychwanegu tanc byffer hefyd, rhwng y boeler a’r system wresogi, fel bod y boeler bob amser yn rhedeg ar ei fwyaf effeithlon. Rydym yn gosod ail falf gymysgu i amddiffyn y boeler. Gall y math hwn o drefniant wneud gwahaniaeth sylweddol i’r defnydd o danwydd, heb aberthu eich cysuron.
Os ydych chi eisiau cyfuno boeler olew â boeler cefn mewn llosgwr coed, neu i storio ynni’r haul i’w ddefnyddio yn y system wresogi a dŵr poeth – siaradwch â ni am ddefnyddio tanc byffer neu storfa wres. Rydym wedi dylunio a gosod llawer o systemau sydd wedi gwella effeithlonrwydd yn fawr.