Boeleri Biomàs

Mae boeleri biomàs yn llosgi coed tân er mwyn cynhesu dŵr i fwydo system wresogi ganolig. Maent yn ffordd cyfleus ac effeithlon i losgi coed fel tanwydd. Maent yn gweithredu mewn ffordd debyg i foeler confensiynol, dim ond y tanwydd sy’n wahanol. Mae’r gwres a gynhyrchir wrth losgi’r tanwydd yn cael ei drosglwyddo i gyfnewidydd gwres, sydd wedyn yn cynhesu dŵr ar gyfer y systemau gwres canolog a dŵr poeth.

Does dim gwadu bod cost gosod boeler biomas neu belenni yn eithaf uchel o’i gymharu â boeler olew, ond yn y tymor hir, mae’n gwneud synnwyr. Mae angen cryn dipyn o le arnyn nhw os oes ganddyn nhw storfa danwydd swmp, ac mae angen llwybr ar gyfer y bibell ffliw, felly maen nhw’n aml yn cael eu gosod mewn adeilad allanol. Weithiau mae angen lle ar gyfer tanc byffer, a all amrywio o ran cyfaint o 500 i sawl mil o litr. Gellir defnyddio pibell wedi’i hinswleiddio ymlaen llaw i gyflenwi ynni dros bellteroedd eithaf hir neu i grŵp o adeiladau.

Oherwydd ein bod yn cysudro coed yn danwydd adnewyddadwy, gellir manteisio ar Boiler Upgrade Scheme (BUS) y llywodraeth i dderbyn cyfraniad o £5,000 tuag at osod bwyler.

Rydym yn gosod boeleri o’r newydd, ac yn trwsio a chynnal nifer helaeth o systemau ar hyd Cymru a’r gororau.

Mae gennym brofiad efo boeleri Biotech, Solarfocus, Ökofen (isod), ETA, Herz ac Extraflame, a rydym yn barod i weithio ar foeleri eraill pe bo angen.