Dyma rai enghreifftiau o waith rydym wedi’i wneud mewn eiddo domestig a masnachol.
Gwresogi dan y llawr
Mae hyn yn dangos sut olwg sydd ar y rhwydwaith pibellau sydd o dan y llawr. Trwy’r rhwydwaith hwnnw, bydd yr hylif cynnes yn llifo a bydd y gwres a gynhyrchir yn pelydru i fyny trwy’r llawr, gan gynhesu’r ystafell.
Yn wahanol i reiddiaduron sy’n cynhesu’r aer, mae gwresogi dan y llawr yn darparu gwres ymbelydrol, gan arwain at ddosbarthiad tymheredd mwy cyfartal a chyfforddus


Dolenni gwresogi dan y llwar
Mae angen labelu’r holl bibellau a osodir o dan y llawr yn glir fel y gellir olrhain y bibellau os oes unrhyw broblemau gydag ardal benodol. Felly, yn ystod y gosodiad, mae angen cymryd gofal i sicrhau bod rhwydwaith y pibellau wedi’i drefnu a’i farcio’n daclus.
Bag silo ar gyfer boeler biomass
Bag silo mawr yw hwn ar gyfer storio’r pelenni a ddefnyddir mewn boeler biomas. Bydd pibell yn cael ei gosod i symud y pelenni’n awtomatig o’r bag i’r boeler lle byddant yn cael eu llosgi i greu gwres.


Claddu’r ‘slinkies’
Mae’r ‘slinkies’ sydd prin yn weladwy yn y ffos, yn cael eu claddu wrth ymyl y tŷ y byddant yn ei gynhesu. Mae cymysgedd o ddŵr a gwrthrewydd (glycol) yn cylchredeg trwy’r slinky ac yn amsugno gwres o’r ddaear o’i gwmpas. Yna caiff yr hylif cynnes ei bwmpio yn ôl i’r pwmp gwres ffynhonnell daear. Yna mae’r pwmp gwres yn cymryd y gwres gradd isel o’r hylif ac yn ei godi i dymheredd uwch, y gellir ei ddefnyddio wedyn i gynhesu’r tŷ.
Camau cynllunio
Dyma gynllun sgematig o system wresogi mewn tŷ mawr y gofynnwyd i ni ei ddiweddaru. Aeth llawer o gynllunio i mewn i’r penderfyniadau ynghylch beth allai fynd ble gan fod seilwaith yr eiddo yn eithaf cyfyngol. Roedd yn her a dderbyniwyd gennym yn hapus.


Gwresogi solar
Mae hwn yn arae ffotofoltäig a osodwyd gennym yng nghanolbarth Cymru, gan fanteisio ar ddiwrnod heulog hardd i ddarparu ynni ychwanegol. Gellir gweld gwresogi solar fel buddsoddiad ar eich to!

Trawsnewidiad llwyr
Mae’r 2 lun yma o dŷ yn Llanfair Caereinion lle ychwanegon ni bwmp gwres ffynhonnell daear, gwresogi dan y llawr a phaneli solar.
Darparodd ychwanegu inswleiddio allanol groen gwrth-ddŵr i orchuddio briciau mandyllog. Gwellodd effeithlonrwydd ynni hefyd trwy leihau colli gwres yn y gaeaf ac ennill gwres yn yr haf.
