Amdanom ni
Wedi’i sefydlu yn 2005, mae ein tîm medrus a phrofiadol yn gyfeillgar ac yn broffesiynol a byddant bob amser yn cynnig cyngor clir a gonest. Rydym wedi’n lleoli yn Llanfair Caereinion, Powys ac yn gofalu am gwsmeriaid ledled canolbarth Cymru a Swydd Amwythig.
Mr Pym the Plumber yn gofalu am bob agwedd ar blymio a gwresogi domestig a masnachol, gan gynnwys boeleri olew, tanciau olew a llinellau olew, ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Rydym yn gosod boeleri a phympiau gwres yn ogystal â’u gwasanaethu a’u cynnal a’u cadw.
Gwres Glas – Green Heat yw ein cwmni rhiant ac mae’n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a gwresogi masnachol. Mae’r tîm yn gosod ac yn cynnal a chadw boeleri biomas, domestig a masnachol. Yn ogystal, rydym hefyd yn gosod ac yn cynnal a chadw systemau solar ar gyfer dŵr poeth a gwresogi gofod.

Systemau gwresogi
- Bwyleri – olew neu goed tân
- Tanc olew
- Pympiau gwres – o’r ddaear a’r awyr
- Boeleri biomas
- Systemau rheiddiadur
- Gwresogi tan-llawr
- Sysytemau hybrid sy’n cyfuno sawl mewnbwn gwres
- Systemau cyfunol sy’n defnyddio storfa wres neu danc byffer
Plymio
- Cyflenwadau dŵr preifat – ffynhonnau a threidd-dyllau
- Paneli gwres yr haul
- Stafelloedd ‘molchi
- Ceginau
- Gollyngiadau o dapiau, rheiddiaduron, pibellau neu silindrau
Oes gennych chi gynlluniau mawr?
Mae gennym ystod eang o brofiad o ddylunio a gosod popeth o gawodydd a cheginau newydd i danciau olew, pympiau gwres a boeleri newydd sbon. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr dibynadwy sy’n ein galluogi i ddarparu gwaith adeiladu a thrydanol ochr yn ochr â’n harbenigedd plymio a gwresogi.
P’un a ydych chi’n bwriadu atgyweirio a chynnal a chadw eich system bresennol, neu ddylunio a gosod un newydd, gallwn ni helpu. Rydym yn hapus i roi cyngor ar newidiadau neu adnewyddiadau i sicrhau eich bod chi’n cael y gorau o’ch system wresogi neu blymio.
Cysylltwch â ni ar 01938 552020 neu anfonwch e-bost atom yn: swyddfa@mr-pym.co.uk a byddwn yn trefnu ymweliad i drafod eich cynlluniau a’ch syniadau.
